Bethan WynJONES19 Gorffennaf, 2026. Yn dawel yng nghwmni ei theulu yn Hosbis Dewi Sant, Llandudno, ac o 11 Ffordd Rhiwlas, Tal-y-sarn, yn 45 mlwydd oed. Merch arbennig Helen a'r diweddar Raymond, a chwaer hoff Andrew a Marie, a Pete a Tesni; modryb gariadus Iwan, Catrin, Nanw a Gwydion, hefyd cymydog a chyfaill triw.
Angladd brynhawn Iau, 6 Awst, 2026. Gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel y Groes, Pen-y-groes am 1.30 o'r gloch, gan ddilyn ar lan y bedd ym Mynwent Macpelah.
Blodau'r teulu'n unig, ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof am Bethan tuag at Hosbis Dewi Sant.
Ymholiadau i Roberts & Owen, Birmingham House, Pen-y-groes. LL54 6PL. 01286 881280.
Keep me informed of updates